Amdanom Ni

Trwy ein darpariaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, nod Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw creu amgylchedd gweithio a dysgu cadarnhaol i'n staff a'n myfyrwyr. Rydym am feithrin amgylchedd sy'n amrywiol a chynhwysol a lle mae unigolion yn rhydd rhag gwahaniaethu. 

Tîm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Ysgrifennydd y Brifysgol a Chlerc Bwrdd y Llywodraethwyr yw ein harweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'r tîm Cydraddoldeb yn cynnwys ein Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a’n Cydlynydd Prosiect Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sy'n ymgysylltu â staff, myfyrwyr a'r gymuned ehangach.

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Nod y pwyllgor yw ysgogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ledled y Brifysgol. Mae’r pwyllgor yn dwyn rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o’r Brifysgol ynghyd i fonitro cynnydd o ran cwrdd â dyletswydd gyffredinol Deddf Cydraddoldeb 2010 a’r dyletswyddau penodol cysylltiedig, gan sicrhau bod y targedau a’r amcanion strategol yn cael eu cyflawni. Mae'r pwyllgor yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol 2020-24. 

Mae'r pwyllgor yn adrodd yn uniongyrchol i Fwrdd Rheoli'r Brifysgol.

Hyfforddiant 

Ochr yn ochr â thîm Datblygu Sefydliadol y Brifysgol, mae ein tîm Cydraddoldeb yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu hyfforddiant ar gydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae ein tîm Cydraddoldeb yn gweithio'n agos â chynrychiolwyr o bob rhan o'r Brifysgol i nodi, datblygu a darparu hyfforddiant perthnasol a hygyrch i'r holl staff a myfyrwyr.